SL(6)452 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) yn nodi’r gofynion gwahanu yng Nghymru at ddibenion adran 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“EPA 1990”). Mae Rheoliadau 2023 yn gymwys i gyflwyno, casglu a thrin gwastraff mewn cysylltiad ag eiddo annomestig.
Mae adran 45AB(1) o EPA 1990 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau ymarfer at ddiben rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut i fodloni gofynion a osodir gan neu o dan adran 45AA.
Mae Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru (“y Cod”) wedi’i ddyroddi gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer hwn ac mae’n rhoi canllawiau ar sut i fodloni’r gofynion gwahanu yn Rheoliadau 2023.
Gosododd Gweinidogion Cymru fersiwn o’r Cod hwn am y tro cyntaf ar 4 Rhagfyr 2023, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2024. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor godi nifer o bwyntiau adrodd o dan Reol Sefydlog 21.7.
Mae’n ymddangos bod y Cod a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 yn disodli’r fersiwn a osodwyd ar 4 Rhagfyr 2023 i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor.
Y weithdrefn
Dim gweithdrefn.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y Cod gerbron y Senedd fel sy’n ofynnol gan adran 45AB(4)(b) o EPA 1990.
Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn cysylltiad â’r Cod hwn.
1. Tybir bod y Cod a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 yn disodli’r Cod o’r un enw a osodwyd ar 4 Rhagfyr 2023, ond nid yw’n:
· cael ei esbonio i’r Senedd mewn unrhyw ddogfennaeth a osodwyd ochr yn ochr â’r Cod,
· cael ei nodi ar wyneb y Cod ei hun,
· cael ei nodi ar wefan Llywodraeth Cymruy gellir cyrchu’r Cod ohono (er bod y wefan yn nodi “diweddarwyd ddiwethaf” ar 30 Ionawr 2024).
Gofynnir i Lywodraeth Cymru, felly, gadarnhau bod y Cod a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 yn disodli’r fersiwn a osodwyd ar 4 Rhagfyr 2023.
At hynny, gofynnir i Lywodraeth Cymru sut y bydd y rheini y mae’n bosibl eu bod eisoes wedi lawrlwytho neu argraffu fersiwn 4 Rhagfyr 2023 o’r Cod – wrth baratoi ar gyfer y gofynion gwahanu newydd yn dod i rym – yn cael gwybod bod y Cod wedi’i ddiweddaru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Chwefror 2024